Seibiant drosodd?
Yda chi'n sylweddoli ei bod hi wedi dros flwyddyn erbyn hyn ers i mid fynd i ffwrdd i Fecsigo bell am fy antuf fawr? Ia, dwi'n cytun- lle mae'r amser wedi hedfan i...? Blwyddyn yma yn lle trefnu trip arall rydw i'n ail-fyw yr un dwytha drwy ddarllen dros fy mlog eto- i gael gweld fy nhrip o berspectif y darllenwr! Ond i fod yn onest mae rhai o'r pethau dwi wedi sgwennu wedi pell fynd yn anghof, ac felly mae yn neis cofio a gwerthfawrogi'r profiadau gwych ges i.
Dwi ddim wedi bod yn segur chwaith ers i fi ddod nol i Gymru, ond fy mhrif drip i cyn belled blwyddyn yma oedd i Gogledd Iwerddon. Doeddwn i ddim wedi sylweddoli mor gryf mae'r 'troubles' wedi effeithio ar y gymdeithas, ac i bob pwrpas ei bod wedi ac yn effeithio ar bob aelod o'r gymuned yno. Fuom ni i lawer o'r llefydd 'twrstaidd' Giants Causway, Derry ac i wel y murluniau yn Belfast. Un sylwad sydd gen i i wneud sy'n berthnasol i Gymru ac wedi 'ngwneud i'n drist iawn. Yn rhai o'r murluniau ar ochr yr Republicans mae 3 banner wedi uno- Lloegr, Alban, a'r ddraig coch yn hapus yn eu plith, yn awgrymu ein bod ni'n hapus iawn i gael bod o dan yr hen 'Jack'. Yn yr un fordd roedd murluniau yn cefnogio achos y Ciwbiaid, Basgwyr, a gwledydd yn ne America, ond dim son o Gymru o gwbwl. O ni'n ffeindio fy hun yn meddwl, pam sganddyn nhw ddim syniad am ein hanes ni yn fama? Ai ni sydd ddim wedi bod yn lleisio ein barn digon cryf dros y can mlynedd diwethaf, ydyn nhw wedi bod yn rhy brysur i sylwi neu ydi cyfryngau gogledd Iwerddon ddim hefo diddordeb yng Nghymru? Tydw i ddim wir isio mynd fewn i'r ddadl o annibyniaeth yn fama, jyst yn siomedig eu bod nhw'n gweld ni'n hapus Brydeinig er gweutha hanes rhai pobl sy'n dangos i'r gwrthwyneb. (Gyda llaw oes unrhyw un yn gwbod os ydi'n banner ni yn cael ei gynrychioli yn yr Union Jac, ynteu dim ond yr Alban a Lloegr oedd digon 'pwysig'? Tydw i ddim yn gallu ei weld o yn bersonol, ond mae llawer mwy craff allan yno na fi?)
Profiad rhyfedd arall oedd bod yn Protestant ag yn Gymraes yr un pryd, rhaid i fi ddeud roedd y Unionists yn reit puzzled hefo hyn hefyd, dim ond y Catholigion oedd yn siarad Gwyddeleg ac i raddau yn dysgu'r diwylliant Gwyddelig. A dyma ni 'clan' cyfan o Brotestaniaid Cymraeg glan gloyw (wel, ella di fi..) sydd ar un wedd yn credu'r un peth yn ddiwinyddol a nhw ond hollol wahanol yn wleidyddol, mor rhyfedd sut mae diwylliant yn gallu siapio ein meddylfryd.
Fydda i ddim yn mynd i ffwrdd am dipyn eto, rhaid i fi sticio at fy swydd yng Nghyngor Gwynedd, sydd rhaid i fi ddweud yn le braf i weithio, er mae atgofion o'r goedwig law yn Brazil, traethau yn Gwlad a Thai a mynyddoedd yn Seland Newydd yn trio 'nhynnu i ffwrdd bob hyn a hyn!! Efallai blwyddyn nesaf, pan fydd y banc yn fodlon gadael i fi fynd eto.
